Siaradwyr

2023 Siaradwyr

Alex Chisholm

Alex Chisholm

Prif Swyddog Gweithredu’r Gwasanaeth Sifil ac Ysgrifennydd Parhaol, Swyddfa’r Cabinet

Daeth Alex Chisholm yn Brif Swyddog Gweithredu’r Gwasanaeth Sifil ac Ysgrifennydd Parhaol Swyddfa’r Cabinet fis Ebrill 2020. Cyn hynny ef oedd Ysgrifennydd Parhaol Adran Busnes, Ynni, a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).

Rolau blaenorol yn y llywodraeth:

  • Ysgrifennydd Parhaol, BEIS 2016 i 2020
  • Cyd-Ysgrifennydd Parhaol, BEIS 2016 i 2016
  • Ysgrifennydd Parhaol, DECC 2016 i 2016
  • Prif Weithredwr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2013 i 2016

Angela MacDonald

Angela MacDonald

Ail Ysgrifennydd Parhaol a Dirprwy Brif Weithredwr, Cyllid a Thollau EM

Daeth Angela yn Ddirprwy Brif Weithredwr Cyllid a Thollau EF (CThEF) ac yn Ail Ysgrifennydd Parhaol fis Awst 2020. Mae Angela yn weithiwr proffesiynol Gweithrediadau sydd â 30 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau, trawsnewid a newid yn y sector cyhoeddus a phreifat. 

Ymunodd Angela â'r Gwasanaeth Sifil yn 2009 i gyflwyno diwygiadau ym maes Cynnal Plant. Yn dilyn pedair blynedd fel Cyfarwyddwr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan arwain y gwaith o ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau, symudodd Angela i CThEF yn 2017 a daeth yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Cwsmeriaid.

  Cyn ymuno â'r Gwasanaeth Sifil, bu Angela yn gweithio mewn nifer o rolau gweithredol, gwerthu a marchnata yn Aviva plc a'i gwmnïau etifeddiaeth.  

Antonia Romeo

Antonia Romeo

Ysgrifennydd Parhaol, Gweinyddiaeth Gyfiawnder.

Daeth Antonia Romeo yn Ysgrifennydd Parhaol Gweinyddiaeth Gyfiawnder fis Ionawr 2021, â chyfrifoldeb am gyfiawnder troseddol, gwasanaethau carchardai a phrawf, llysoedd sifil, teulu a throseddol, gwasanaethau cyfreithiol, a pholisi cyfansoddiadol. Cyn hyn bu Antonia yn Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Fasnach Ryngwladol (DIT) am bedair blynedd, â chyfrifoldeb am bolisi masnach, negodi masnach a threfniadau mynediad i’r farchnad â gwledydd y tu allan i’r UE, hybu masnach fyd-eang a chyllid, buddsoddiad busnes mewnol ac allanol, a'r Ymgyrch GREAT.

Ymunodd Antonia â'r Gwasanaeth Sifil yn 2000 fel economegydd proffesiynol yn dilyn gyrfa gynnar yn y sector preifat â chwmni ymgynghori strategol Oliver Wyman.  

Mae hi wedi dal nifer o uwch swyddi yn Llywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys:

  • Conswl Cyffredinol Ei Mawrhydi yn Efrog Newydd a Chyfarwyddwr Cyffredinol Materion Economaidd a Masnachol UDA, a Llysgennad Arbennig i gwmnïau technoleg UDA, sydd wedi eu lleoli yn Efrog Newydd
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth Economaidd a Domestig yn Swyddfa’r Cabinet, sy’n gyfrifol am gydgysylltu cyngor polisi i’r Prif Weinidog a’r Cabinet, a chyflawni prif flaenoriaethau’r Prif Weinidog
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyfiawnder Troseddol yng Ngweinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ), sy'n gyfrifol am yr holl bolisïau cyfiawnder troseddol a rhaglenni mawr
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol, Trawsnewid yng Ngweinyddiaeth Gyfiawnder, sy'n gyfrifol am raglenni diwygio ac arbedion, strategaeth, Gwasanaethau Digidol, cyfathrebu, Adnoddau Dynol y Grŵp ac ystadau Grŵp
  • Cyfarwyddwr Gweithredol, Menter a Diwygio yn Swyddfa’r Cabinet, sy’n gyfrifol am ddiwygio model llywodraethu a Bwrdd y Llywodraeth, gan weithio â busnesau

Mae Antonia yn eistedd ar Fwrdd y Gwasanaeth Sifil a Phwyllgor Uwch Arwain, yn Hyrwyddwr Rhyw y Gwasanaeth Sifil, ac yn Llywydd Côr Whitehall.

Mae gan Antonia MA (PPE) o Brifysgol Rhydychen, MSc (Economeg) o Ysgol Economeg Llundain, a diploma Rhaglen Rheolaeth Uwch o Ysgol Fusnes Columbia.

Beth Russell

Beth Russell

Ail Ysgrifennydd Parhaol, Trysorlys EF

Yn ddiweddar penodwyd Beth Russell yn Ail Ysgrifennydd Parhaol i'r Trysorlys ac mae wedi'i leoli yng Nghampws Economaidd Darlington. 

Mae Beth wedi gweithio yn y Trysorlys ers 2000 mewn ystod o rolau polisi ar draws treth, lles a gwariant cyhoeddus.  Cyn ei rôl bresennol hi oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Treth a Lles yn y Trysorlys a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn arwain campws economaidd y Trysorlys yn Darlington.

  Roedd ei rolau blaenorol yn y Trysorlys yn cynnwys Cyfarwyddwr Treth Bersonol, Lles a Phensiynau (2013-2017), Prif Ysgrifennydd Preifat i Ganghellor y Trysorlys George Osborne (2011-2013), Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Gwariant Cyffredinol (2008-2011), Dirprwy Gyfarwyddwr Trethi Amgylcheddol a Thrafnidiaeth (2005-07) ac Ysgrifennwr areithiau i Gordon Brown pan oedd yn Ganghellor (2001- 2005) a Phrif Weinidog (2007-2008).  Dechreuodd ei gyrfa yn yr Adran Nawdd Cymdeithasol fel cynghorydd polisi ar les (1996-2000)

Cat Little

Cat Little

Cyfarwyddwr Anweithredol, Pennaeth Swyddogaeth Cyllid y Llywodraeth, ac Ail Ysgrifennydd Parhaol, Trysorlys EF

Dechreuodd Cat ei gyrfa yn y cwmni cyfrifeg PwC, sy'n ymroddedig i gyllid y Llywodraeth a'r Sector Cyhoeddus, gan weithio'n bennaf mewn rolau sicrwydd. Dros fwy na degawd, bu Cat yn gweithio gyda chleientiaid ar draws sectorau Iechyd, Llywodraeth Leol, Addysg Uwch a Llywodraeth Ganolog.  Ymunodd Cat â'r Gwasanaeth Sifil yn 2013 yn gyntaf yn yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol lle bu'n gweithio ar ddigideiddio cymorth cyfreithiol sifil, a chael gwared ar y cymhwyster cyfrifon ariannol hir sefydlog fel y Cyfarwyddwr Cyllid a Digidol. 

Aeth Cat ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Grŵp Cyllid yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder gan oruchwylio pob agwedd ar reoli ariannol a chefnogi diwygio carchardai, diwygio llysoedd a rhaglenni trawsnewid. Yn 2017,  ymunodd Cat â Bwrdd y Weinyddiaeth Amddiffyn fel Cyfarwyddwr Cyllid Cyffredinol. Yn y rôl hon hi oedd prif ymgynghorydd ariannol i weinidogion, y Bwrdd Amddiffyn a'r Swyddog Cyfrifeg ac fe arweiniodd y swyddogaethau cyllid, masnachol a dadansoddol ar draws Amddiffyn. Yn ystod y cyfnod hwn,  arweiniodd Cat y diwygiad Prynu a Chaffael Amddiffyn fel rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Amddiffyn a sefydlu'r Rhaglen Gwella Ariannol.  Arweiniodd Cat oruchwyliaeth y portffolio Amddiffyn, a hi oedd Pencampwr Hil yr Adran.

Ymunodd Cat â Thrysorlys EF yn 2020 fel Cyfarwyddwr Gwariant Cyhoeddus Cyffredinol. Cymerodd rôl Ysgrifennydd Parhaol Dros Dro ym mis Medi 2022, ac ym mis Hydref 2022 cafodd ei phenodi i Ail Ysgrifennydd Parhaol. Yn y rôl hon mae Cat yn goruchwylio polisi gwariant cyhoeddus, rhyngwladol a diogelwch cenedlaethol. Mae'n cyfuno hyn â'i swyddi fel pennaeth Swyddogaeth Cyllid y Llywodraeth a Chadeirydd Grŵp Arweinyddiaeth Cyllid y Llywodraeth. Mae Cat yn gyfrifydd cyllid cyhoeddus siartredig ac mae'n cynrychioli'r DU fel aelod o IFAC, PAIB ac mae hefyd yn aelod cyfetholedig o Gyngor CIPFA. Y tu allan i'r gwaith mae Cat yn byw yn Kent North Downs, yn mwynhau rhedeg, beicio a cherdded y ci gyda'i gwraig Ruth.

David Williams

David Williams

Ysgrifennydd Parhaol, y Weinyddiaeth Amddiffyn

Penodwyd David Williams yn Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Amddiffyn fis Ebrill 2021.

Penodwyd David Williams yn Ail Ysgrifennydd Parhaol am gyfnod y sefyllfa coronafeirws (COVID-19) fis Mawrth 2020.

Penodwyd David yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Cyllid yn yr Adran Iechyd ar 16 Mawrth 2015. Daeth y rôl yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Cyllid a Gweithrediadau Grŵp fis Gorffennaf 2016.

Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Cyffredinol Cyllid yn y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) lle mae wedi dal nifer o uwch swyddi gan gynnwys:

  • Cyfarwyddwr Rheolaeth Ariannol
  • Cyfarwyddwr Adnoddau Offer
  • Cyfarwyddwr Cynllunio Ariannol a Diogelwch

Dr Andrew Goodall

Andrew Goodall

Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Penodwyd Dr Andrew Goodall i rôl Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru fis Tachwedd 2021 ac mae’n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru wrth gyflawni blaenoriaethau’r Prif Weinidog ac yn gweithredu fel Prif Swyddog Cyfrifyddu i Lywodraeth Cymru. Cyn hyn roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, swydd yr oedd wedi ei dal ers mis Mehefin 2014.

Mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr y GIG yng Nghymru ers 16 mlynedd. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, swydd a ddaliwyd o ddechrau’r Bwrdd Iechyd fis Hydref 2009 tan 2014 ar ôl ad-drefnu’r GIG i fodel integredig y Bwrdd Iechyd.

Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd yn y GIG, mae Dr Goodall wedi dal swyddi cynllunio a gweithredu ar draws nifer o sefydliadau GIG ar draws De Cymru yn ogystal â rolau cenedlaethol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwella diogelwch cleifion, ansawdd a phrofiad y claf; gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus; a darparu gwasanaethau rheng flaen drwy wella gwasanaeth a moderneiddio.

Mae gan Dr Goodall radd yn y gyfraith o Brifysgol Essex a PhD mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd o Ysgol Busnes Caerdydd. Dyfarnwyd CBE i Dr Goodall yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 am ei wasanaethau i’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus.

Fiona Ryland

Fiona Ryland

Prif Swyddog Pobl y Llywodraeth

Fiona Ryland yw Prif Swyddog Pobl y Llywodraeth ers Medi 2022.

  Ymunodd Fiona â'r Gwasanaeth Sifil o Goleg Prifysgol Llundain (UCL) lle'r oedd hi'n Is-Lywydd Gweithrediadau.

  Cyn hynny, arweiniodd Fiona y timau Adnoddau Dynol, Cyfathrebu, Cyfrifoldeb Corfforaethol a Rhagoriaeth Busnes ar gyfer Compass Group UK ac Iwerddon. Mae ganddi brofiad helaeth hefyd o reoli a gweithrediadau Adnoddau Dynol mewn manwerthwyr gan gynnwys Comet, Dixons ac Asda - yn arbennig, gan sefydlu prentisiaeth newydd a rhaglenni graddedigion er budd pobl ifanc a chydweithwyr ar gamau cynnar eu gyrfa.

 Graddiodd Fiona mewn Peirianneg Gemegol o Brifysgol Caerfaddon ac mae ganddi hefyd BSc mewn Seicoleg o'r Brifysgol Agored. 

Y tu allan i'r gwaith, mae Fiona yn briod ac yn byw yn y Chilterns. Mae hi'n gefnogwr brwd Leyton Orient.  

Gareth Rhys Williams

Gareth Rhys Williams

Prif Swyddog Masnachol y Llywodraeth a Chyfarwyddwr Anweithredol, Gwasanaeth Masnachol y Goron

Yn fwyaf diweddar, Gareth Rhys Williams oedd Prif Swyddog Gweithredol PHS Group, darparwr blaenllaw o wasanaethau gweithle allanol yn y DU. Mae Gareth yn Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Anweithredol profiadol, gyda hanes cyson o ailfywiogi ac ailddyfeisio cwmnïau rhestredig a chwmnïau a gefnogir gan ecwiti preifat trwy strategaethau twf creadigol. Mae ganddo hanes cryf o ysgogi newid trawsnewidiol mewn sefydliadau mawr, cymhleth a ffederal.

  Cyn ymuno â PHS, roedd Gareth yn Brif Swyddog Gweithredol Charter International, grŵp peirianneg FTSE 250, nes iddo gael ei werthu'n llwyddiannus i Colfax Corporation yn 2012. Cyn hynny, roedd yn Brif Swyddog Gweithredol Capital Safety Group Ltd, ers ei werthu i KKR, a Phrif Swyddog Gweithredol Vitec Group plc, cyflenwr offer a gwasanaethau darlledu a ffotograffig.

Jaee Samant

Jaee Samant

Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Diogelwch y Cyhoedd

Penodwyd Jaee Samant yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Diogelwch y Cyhoedd yn y Swyddfa Gartref fis Tachwedd 2021.

Hi oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Fframweithiau Marchnad yn Adran Busnes, Ynni, a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) rhwng 2017 a Hydref 2021.

Ymunodd ag Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS) yn 2013 fel Cyfarwyddwr y Farchnad Lafur. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Troseddau’r Swyddfa Gartref rhwng 2009 a 2013.

Mae Jaee wedi bod yn was sifil ers dechrau’r 1990au ac mae wedi gweithio mewn ystod eang o rolau strategaeth a pholisi yn Adran Cyflogaeth, Adran Addysg a Chyflogaeth, Adran Gwaith a Phensiynau, Swyddfa’r Cabinet a’r Swyddfa Gartref. Mae hi wedi cael secondiadau i'r BIG Lottery Fund a'r BBC.

Treuliodd Jaee ran o’i phlentyndod yn India, Singapore a Hong Kong cyn symud i’r DU yn 12 oed. Bu’n gweithio ym myd bancio am flwyddyn cyn ymuno â’r Gwasanaeth Sifil.

James Bowler

James Bowler

Ysgrifennydd Parhaol, Trysorlys EF

Daeth James Bowler yn Ysgrifennydd Parhaol Trysorlys EF ym mis Hydref 2022. 

Adran Masnach Ryngwladol (DIT) ar 16 Awst 2021. Cyn hynny, gwasanaethodd James fel Ysgrifennydd Parhaol i’r Adran Masnach Ryngwladol (DIT), a chyn hynny gwasanaethodd fel Ail Ysgrifennydd Parhaol Swyddfa'r Cabinet yn arwain y Tasglu COVID o fis Hydref 2020. Yn y rôl hon, roedd yn gyfrifol am reoli ac arwain y tasglu a nododd strategaeth y llywodraeth i fynd i'r afael â'r pandemig a'i effeithiau. Cyn hynny bu’n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Polisi, Cyfathrebu a Dadansoddi yng Ngweinyddiaeth Gyfiawnder, 2020.

  Am lawer o'i yrfa yn y gwasanaeth sifil, mae James wedi gweithio yn y Trysorlys. Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwariant Cyhoeddus (2017 i 2020), Cyfarwyddwr Cyffredinol Treth a Lles (2015 i 2017) a Chyfarwyddwr Strategaeth, Cynllunio a Chyllideb (2012 i 2015). Yn y rolau hyn, bu’n goruchwylio meysydd polisi allweddol fel paratoi a dyrannu’r Gyllideb, gwariant a pholisi treth.

  Gwasanaethodd James fel Prif Ysgrifennydd Preifat, i David Cameron a Gordon Brown fel Prif Weinidog ac i  Alistair Darling a Gordon Brown fel Canghellor y Trysorlys. 

Fe'i penodwyd yn Gydymaith Urdd y Baddon (CB) yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2012.  

Jeremy Pocklington

Jeremy Pocklington

Ysgrifennydd Parhaol, Yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net  

Jeremy Pocklington yw'r Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ). 

Cyn hynny, roedd Jeremy yn Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (Medi 2021 i Chwefror 2023), ac yn Ysgrifennydd Parhaol yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (Mawrth 2020 i fis Medi 2021). 

Bu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol, Tai, Cynllunio a Diogelwch Adeiladu yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol rhwng Awst 2018 a Mawrth 2020. Cyn hynny, bu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol, Ynni a Diogelwch yn yr Adran Busnes,  Ynni a  Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ac yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) o Chwefror 2015 hyd Awst 2018. 

Cyn ymuno â DECC Jeremy roedd Cyfarwyddwr yr Uned Menter a Thwf yn Nhrysorlys EF yn gyfrifol am bolisïau ar dwf, busnes a seilwaith ac am gynghori ar wariant cyhoeddus ar gyfer BIS, DfT, DECC a DEFRA. Rhwng 2009 a 2012 bu'n Gyfarwyddwr yr ysgrifenyddiaeth Economaidd a Domestig yn Swyddfa'r Cabinet. Ymunodd â'r Trysorlys ym 1997 ac mae wedi dal amrywiaeth o swyddi ar reoleiddio ariannol, treth, polisi cyllidol a chyllid corfforaethol yn ogystal â gweithio fel ysgrifennydd preifat cynorthwyol i 2 Brif Ysgrifenyddion.  

Jim Harra

Jim Harra

Ysgrifennydd Parhaol, Cyllid a Thollau EM

Dechreuodd Jim ei yrfa â Chyllid y Wlad fel Arolygydd Trethi ym 1984. Fis Ionawr 2009, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Treth Gorfforaeth a TAW, yn gyfrifol am optimeiddio cynllunio a chyflenwi’r trethi busnes hyn.

Daeth Jim yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Cwsmeriaid Treth Bersonol fis Mawrth 2011, a Chyfarwyddwr Gweithrediadau Treth Personol fis Hydref 2011. Fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Treth Busnes Cyffredinol ar 16 Ebrill 2012. Dechreuodd Jim yn ei swydd fel Ail Ysgrifennydd Parhaol a Dirprwy Brif Weithredwr CThEM ar 1 Ionawr 2018.

Penodwyd Jim yn Ysgrifennydd Parhaol Cyntaf a Phrif Weithredwr CThEM fis Hydref 2019.

JP Marks

JP Marks

Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth yr Alban

Penodwyd JP Marks yn Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth yr Alban ar 5 Ionawr 2022. Cyn hyn, JP oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwaith a Gwasanaethau Iechyd Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Mae rolau blaenorol yn y Gwasanaeth Sifil yn cynnwys:

  • Cyfarwyddwr Cyffredinol Gweithrediadau ar ddyrchafiad dros dro o fis Mawrth 2018.
  • Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Chyfarwyddwr Ardal ar gyfer De Lloegr
  • Cyfarwyddwr Dylunio a Chynllunio Strategol yn y Rhaglen Credyd Cynhwysol
  • Prif Ysgrifennydd Preifat i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau
  • Pennaeth Cysylltiadau Corfforaethol a Pholisi Rhyngwladol Rheoleiddiwr Pensiynau'r DU
  • Ysgrifenydd areithiau i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys

Mae rolau presennol y tu allan i'r Gwasanaeth Sifil yn cynnwys:

  • Ymddiriedolwr, St Giles Trust ac Ymddiriedolwr, Treloar Trust
  • Ymddiriedolwr, DWP Royal National Lifeboat Institution (RNLI) Fund

Justin Placide

Justin Placide

Pennaeth Tîm Galluogwyr Ôl-osod Ynni Cartref, Cyd-Gadeirydd, Fforwm Hil y Gwasanaeth Sifil (CSRF), Cyd-Gadeirydd, Rhwydwaith Ffydd a Lleiafrifoedd Ethnig (FAME) 

Justin yw Pennaeth y Tîm Galluogwyr Ôl-osod Ynni Cartref o Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Mae'n gyfrifol am annog gwelliannau perfformiad ynni mewn eiddo presennol. Mae'n arwain ei dîm ar ddatblygu polisi, darparu prosiectau a rheoli gwasanaethau gan helpu'r Llywodraeth i weithio tuag at gyflawni'r targed Net Sero.

Laurence Lee

Laurence Lee

Ail Ysgrifennydd Parhaol, Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Laurence Lee yw’r Ail Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD). Ymunodd Laurence â'r MOD ym Mehefin 2021.  

Fel Ail Ysgrifennydd Parhaol mae ei gyfrifoldebau'n cynnwys trawsnewid digidol ar draws Amddiffyn, diogelwch a  gwydnwch (gan gynnwys seiberddiogelwch), polisi gofod, gwyddoniaeth a thechnoleg, diogelwch, strategaeth Amddiffyn, asesu net a herio, diogelwch masnach ac economaidd, a pherthynas strategol â diwydiant. 

Cyn hynny roedd Laurence yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yn y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa. Mae wedi gwasanaethu dramor yn Afghanistan a'r Caribî ac mae wedi arwain gwaith ar ddiogelwch rhyngwladol, gan gynnwys mewn rolau gweithredol a pholisi sy'n canolbwyntio ar wladwriaethau gelyniaethus, gwrthderfysgaeth a throseddau cyfundrefnol. Mae ganddo hefyd gefndir mewn cyllid, cynllunio strategol a rheoli newid.  

Madeleine Alessandri

Madeleine Alessandri

Ysgrifennydd Parhaol, Swyddfa Gogledd Iwerddon

Madeleine Alessandri CMG yw Ysgrifennydd Parhaol Swyddfa Gogledd Iwerddon.

Madeleine Alessandri CMG oedd Dirprwy Gynghorydd Diogelwch Cenedlaethol y DU a Chynghorydd y Prif Weinidog ar Gydnerthedd a Diogelwch Cenedlaethol. Ymunodd â gwasanaeth y llywodraeth ym 1988 ac mae wedi dal amrywiaeth eang o swyddi yn y Gwasanaeth Diplomyddol a Diogelwch Cenedlaethol yn y DU a thramor.

Fe’i gwnaethpwyd yn Gadlywydd Urdd Sant Mihangel a San Siôr (CMG) yn 2017.

 

Megan Lee Devlin

Megan Lee Devlin

Prif Weithredwr, Swyddfa Ddigidol a Data Canolog

Megan Lee Devlin yw Prif Weithredwr y Swyddfa Ddigidol a Data Canolog (CDDO), sy'n gyfrifol am arwain trawsnewidiad digidol y llywodraeth o'r Swyddfa Ddigidol a Data Canolog (CDDO) yn Swyddfa'r Cabinet. Mae CDDO yn arwain y swyddogaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg (DDaT) ar gyfer HMG trwy roi'r amodau a'r galluoedd cywir ar waith i alluogi adrannau i drawsnewid trwy ddigidol a thechnoleg. Ymunodd Megan â'r Gwasanaeth Sifil o McKinsey & Company, lle bu'n gweithio gyda sefydliadau'r sector preifat a'r sector cyhoeddus ar bynciau technoleg, dadansoddeg a thrawsnewid sefydliadol.

Nick Smallwood

Nick Smallwood

Prif Weithredwr, Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau a Phennaeth Swyddogaeth Cyflenwi Prosiectau'r Llywodraeth

Nick Smallwood yw Prif Swyddog Gweithredol yr Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau a Phennaeth Swyddogaeth Cyflenwi Prosiectau’r Llywodraeth.

Nick yw cyn Is-lywydd Peirianneg Prosiectau a Phrif Beiriannydd Prosiectau yn Shell. Mae gan Nick 40 mlynedd o brofiad o reoli portffolios prosiect cymhleth ac wedi datblygu Academi Prosiect Byd-eang Shell. Yn Shell, Nick oedd yn gyfrifol am reoli sut roedd prosiectau'n cael eu darparu ac amrywiaeth o raglenni gwella sylweddol.

Roedd Nick hefyd yn ymddiriedolwr bwrdd y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM) tan fis Tachwedd 2019, lle cyfrannodd at ddatblygiad cyffredinol proffesiwn rheoli prosiectau’r DU.

Peter Schofield

Peter Schofield

Ysgrifennydd Parhaol, Adran Gwaith a Phensiynau

Daeth Peter yn Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 16 Ionawr 2018.

Yn flaenorol mae wedi gweithio:

  • fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Cyllid Adran Gwaith a Phensiynau o fis Gorffennaf 2016
  • fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Tai a Chynllunio yn Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol
  • fel Cyfarwyddwr yr Uned Menter a Thwf yn Nhrysorlys EM
  • fel cyfarwyddwr yn y Weithrediaeth Cyfranddalwyr
  • ar secondiad i 3i PLC
  • mewn nifer o rolau, gan gynnwys Ysgrifennydd Preifat i'r Prif Ysgrifennydd, yn Nhrysorlys EM

Professor Sir Ian Diamond

Sir Ian Diamond

Ystadegydd Gwladol y DU, Ysgrifennydd Parhaol, Prif Weithredwr Awdurdod Ystadegau'r DU, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Yr Athro Syr Ian Diamond yw Ystadegydd Cenedlaethol y DU. Ef oedd cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Nawdd Cymdeithasol (SSAC) o Awst 2018 i Awst 2019.

Syr Ian, a gafodd ei urddo’n farchog yn 2013 am ei wasanaeth i wyddor gymdeithasol ac addysg uwch, oedd Pennaeth ac Is-ganghellor Prifysgol Aberdeen tan 31 Gorffennaf 2018.

 

 

Sam Beckett

Sam Beckett

Ail Ysgrifennydd Parhaol, Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Dirprwy Brif Weithredwr, Awdurdod Ystadegau'r DU  

Daeth Sam yn Ail Ysgrifennydd Parhaol yr ONS ac yn Ddirprwy Brif Weithredwr Awdurdod Ystadegau'r DU ym Medi 2020. Yn y rôl hon, mae Sam yn gofalu am Ystadegau Economaidd, Cymdeithasol ac Amgylcheddol, ochr yn ochr â gwasanaethau corfforaethol. Mae hi hefyd yn gyd-bennaeth Gwasanaeth Economaidd y Llywodraeth. Yn union cyn yr ONS, roedd yn Ysgrifennydd Parhaol dros dro yn BEIS, lle, ymhlith pethau eraill, bu'n goruchwylio'r ymateb i Covid. Cyn hynny hi oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol BEIS yn gyfrifol am baratoadau eang a chymhleth yr Adran ar gyfer gadael yr UE.

Mae gan Sam dros 25 mlynedd o brofiad yn BEIS, Swyddfa'r Cabinet a Thrysorlys EF mewn rolau sy'n rhychwantu micro-economeg a macro-economeg, strategaeth, polisi a darparu gwasanaethau corfforaethol. Mae gan Sam radd o Goleg Newydd, Rhydychen a MSc mewn Economeg o LSE. Fe'i gwnaed yn Gydymaith y Baddon (CB) yn 2020.

Sapana Agrawal

Sapana Agrawal

Cyfarwyddwr, Moderneiddio a Diwygio

Mae Sapana yn gyfrifol am yr Uned Moderneiddio a Diwygio a'r Tasglu Gwerthuso. Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr ar Dasglu COVID-19 yn Swyddfa’r Cabinet. Mae Sapana wedi treulio amser yn y sector cyhoeddus a phreifat, gan weithio yn ddomestig ac yn fyd-eang i gwmnïau gan gynnwys McKinsey a Sefydliad Clinton. Mae profiad Sapana yn cynnwys gweithio â'r GIG ar raglenni trawsnewid, rhedeg nifer o fusnesau newydd sydd wedi dod â newidiadau bywyd go iawn i bobl sy'n wynebu amrywiaeth o heriau iechyd (e.e., anhunedd) a chyd-sefydlu elusen i helpu i gael prydau poeth i staff y GIG yn ystod y pandemig. Fel arweinydd profiadol, mae Sapana wedi helpu i yrru ehangiad McKinsey ei hun mewn technoleg ac arloesedd ac yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi arwain gwaith McKinsey yn fyd-eang i gefnogi sefydliadau i weithredu rhaglenni ailsgilio fel rhan o drawsnewidiadau digidol mawr. .

Sarah Healey

Sarah Healey

Ysgrifennydd Parhaol, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau, a Chwaraeon

Mae Sarah Healey wedi bod yn Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ers mis Ebrill 2019.

Cyn hynny, bu’n gweithio yn Swyddfa’r Cabinet lle bu’n Gyfarwyddwr Cyffredinol yn goruchwylio datblygiad a gweithrediad polisi economaidd a domestig yn dilyn dwy flynedd a hanner yn gweithio ar drafodaethau a pharatoadau ar gyfer y DU i adael yr UE. Cyn hynny, roedd Sarah yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yn DCMS, lle bu’n arwain ar integreiddio’r holl gyfrifoldebau digidol i’r sefydliad, yn Gyfarwyddwr Pensiynau Preifat yn Adran Gwaith a Phensiynau a Chyfarwyddwr Cyllid a Strategaeth Addysg yn Adran Addysg.

Ymunodd Sarah â’r gwasanaeth sifil yn 2001 i weithio yn Uned Strategaeth y Prif Weinidog. Mae ganddi raddau o Goleg Magdalen, Rhydychen, a'r LSE.

 

 

Sarah Munby

Sarah Munby

Ysgrifennydd Parhaol, Adran dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

Cafodd Sarah Healey ei phenodi'n Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) ar 7 Chwefror 2023. 

Cyn hyn, bu'n Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) o 2019 a chyn hynny bu'n gweithio yn Swyddfa'r Cabinet lle'r oedd hi'n Gyfarwyddwr Cyffredinol yn goruchwylio datblygiad a gweithredu polisi economaidd a domestig yn dilyn dwy flynedd a hanner yn gweithio ar drafodaethau a pharatoadau ar gyfer y DU i adael yr UE. 

Cyn hynny, Sarah oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol DCMS, lle bu'n arwain ar integreiddio pob cyfrifoldeb digidol i'r sefydliad, Cyfarwyddwr Pensiynau Preifat yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyfarwyddwr Cyllid Addysg a Strategaeth yn yr Adran Addysg. Ymunodd Sarah â'r gwasanaeth sifil yn 2001 i weithio yn Uned Strategaeth y Prif Weinidog. Mae ganddi raddau o Goleg Magdalen, Rhydychen, a'r LSE.  

Shona Dunn

Shona Dunn

Ail Ysgrifennydd Parhaol, Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Daeth Shona yn Ail Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) ym mis Ebrill 2021. 

Cyn ymuno â DHSC,  Shona oedd: 

•    Ail Ysgrifennydd Parhaol yn y Swyddfa Gartref rhwng 2018 a 2021  •    Cyfarwyddwr Cyffredinol, Ysgrifenyddiaeth Materion Economaidd a Domestig, Swyddfa'r Cabinet, 2016 i 2018  •    Cyfarwyddwr Cyffredinol, Safonau Addysg, Yr Adran Addysg, 2013 i 2016

Simon Baugh

Simon Baugh

Prif Weithredwr, Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth, Swyddfa'r Cabinet

Penodwyd Simon Baugh yn Brif Weithredwr Cyfathrebu’r Llywodraeth fis Hydref 2021

Mae ganddo ugain mlynedd o brofiad mewn rolau strategaeth a chyfathrebu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys:

  • Cyfarwyddwr Cyfathrebu, y Swyddfa Gartref
  • Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, yr Adran Ymadael â'r UE
  • Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyfathrebu, yr Adran Drafnidiaeth
  • Cyfarwyddwr Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, Heathrow Airport Holdings
  • Cyfarwyddwr Cyfathrebu Mewnol a Theithwyr, BAA
  • Pennaeth Materion Cyhoeddus, Maes Awyr Heathrow
  • Uwch Ymgynghorydd, AS Biss & Co

Simon Case

Simon Case

Ysgrifennydd y Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Sifil, Swyddfa’r Cabinet

Penodwyd Simon Case yn Ysgrifennydd y Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Sifil fis Medi 2020. Cyn hyn fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd Parhaol yn Rhif 10, gan ganolbwyntio ar Covid-19 a’r ymateb i’r pandemig.

Mae hefyd wedi gwasanaethu yn yr Aelwyd Frenhinol, ar ôl bod yn Ysgrifennydd Preifat i’w Uchelder Brenhinol y Tywysog William, Dug Caergrawnt. Cyn hyn, roedd ganddo lawer o swyddi nodedig eraill ar draws y llywodraeth, gan wasanaethu o dan weinyddiaethau Cameron a May fel Prif Ysgrifennydd Preifat i’r Prif Weinidog.

Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, yn ogystal â Chyfarwyddwr Cyffredinol y berthynas rhwng y DU a’r UE drwy gydol ei gyfnod yn y llywodraeth. Mae Simon wedi casglu dros 15 mlynedd o brofiad yn y Gwasanaeth Sifil.

Simon Ridley

Simon Ridley

Ail Ysgrifennydd Parhaol, argyfwng ffoaduriaid Wcráin.

Mae Simon wedi gwasanaethu o'r blaen fel: 

•    Pennaeth Tasglu COVID-19 Swyddfa'r Cabinet, rhwng mis Mawrth 2020 a Mawrth 2022  •     Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cytundeb Ymadael, Tasglu Pontio, rhwng Ionawr 2020 a Mawrth 2020  •    Cyfarwyddwr Partneriaeth Economaidd Cyffredinol y Dyfodol, Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd, rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Ionawr 2020  •    Cyfarwyddwr Cyffredinol, Datganoli a Thwf, Y Weinyddiaeth Cymunedau Tai a Llywodraeth Leol, rhwng 2015 a 2019  •    Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gynllunio, rhwng 2014 a 2015

Susan Acland-Hood

Susan Acland-Hood

Ysgrifennydd Parhaol, Adran Addysg

Mae Susan Acland-Hood wedi bod yn Ysgrifennydd Parhaol yn Adran Addysg (DfE) ers mis Medi 2020.

Mae rolau blaenorol Susan yn y llywodraeth yn cynnwys:

  • Prif Weithredwr Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM - 2016 i 2020
  • Cyfarwyddwr Menter a Thwf yn Nhrysorlys EM - 2015 i 2016
  • Cyfarwyddwr Addysg a Chyllid yn Adran Addysg - 2013 i 2015
  • Cynghorydd Polisi ar faterion cartref a chyfiawnder, ac yna polisi addysg yn Rhif 10
  • Pennaeth Strategaeth yn y Swyddfa Gartref

Mae hi hefyd wedi dal uwch rolau ym Mwrdeistref Tower Hamlets yn Llundain ac yn yr Uned Allgáu Cymdeithasol. Dechreuodd ei gyrfa yn y gwasanaeth sifil ym 1999 yn Adran Addysg a Chyflogaeth.

Susanna McGibbon

Susanna McGibbon

Procuradur Cyffredinol EM, Cyfreithiwr y Trysorlys ac Ysgrifennydd Parhaol, Adran Gyfreithiol y Llywodraeth

Dechreuodd Susanna yn rôl Cyfreithiwr y Trysorlys ac Ysgrifennydd Parhaol Adran Gyfreithiol y Llywodraeth ddydd Llun 8 Mawrth 2021.

Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys:

  • Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyfarwyddiaeth B, Adran Gyfreithiol y Llywodraeth, 2018 i 2021
  • Cyfarwyddwr Ymgyfreitha, Adran Gyfreithiol y Llywodraeth, 2012 i 2018
  • Cyfarwyddwr Cyfreithiol, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, 2009 i 2012
  • Cyfarwyddwr Cyfreithiol, yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, 2006 i 2009

Suzanne Heywood

Suzanne Heywood

Rheolwr Gyfarwyddwr, Exor a Chadeirydd CNH Industrial N.V.

Mae Suzanne Heywood yn Rheolwr Gyfarwyddwr Exor ac yn Gadeirydd CNH Industrial NV.

Cafodd ei geni yn Southampton, Lloegr ac mae ganddi MA Gwyddoniaeth o Brifysgol Rhydychen a PhD o Brifysgol Caergrawnt ar ôl treulio plentyndod yn hwylio o amgylch y byd ar gwch, dechreuodd Suzanne ei gyrfa broffesiynol yn Nhrysorlys y DU.

Ym 1997, ymunodd â McKinsey & Company lle bu mewn swyddi cynyddol uwch gan gynnwys, fel Uwch Bartner, cyd-arwain llinell gwasanaeth byd-eang McKinsey ar newid model gweithredu am nifer o flynyddoedd a gweithio'n helaeth ar faterion strategol â llawer o gleientiaid.

Mae Suzanne hefyd yn aelod o Fwrdd The Economist ac yn Ddirprwy Gadeirydd y Tŷ Opera Brenhinol.

Syr Chris Wormald

Sir Chris Wormald

Ysgrifennydd Parhaol, Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Penodwyd Syr Chris Wormald yn Ysgrifennydd Parhaol yn Adran Iechyd fis Mai 2016.

Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys:

  • Ysgrifennydd Parhaol Adran Addysg
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol yn Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog, Swyddfa’r Cabinet
  • Pennaeth yr Ysgrifenyddiaeth Economaidd a Domestig, Swyddfa'r Cabinet
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol, Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus, Swyddfa'r Cabinet
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol ac Adfywio yn Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol
  • Prif Ysgrifennydd Preifat i Estelle Morris a Charles Clarke

Syr Matthew Rycroft

Matthew Rycroft

Ysgrifennydd Parhaol, Swyddfa Gartref

Cafodd Syr Matthew Rycroft ei benodi'n Farchog Cadlywydd Sant Mihangel a Saint George am ei wasanaethau i Ddiplomyddiaeth, Datblygu a Pholisi Domestig Prydain yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2023.

Syr Matthew Rycroft CBE yw'r Ysgrifennydd Parhaol yn y Swyddfa Gartref. Fe’i penodwyd ar 17 Mawrth 2020.

Cyn hynny roedd Syr Matthew yn Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Datblygu Rhyngwladol rhwng 22 Ionawr 2018 a 16 Mawrth 2020.

O fis Ebrill 2015 i fis Ionawr 2018 Matthew oedd Cynrychiolydd Parhaol Prydain i'r Cenhedloedd Unedig. 

O fis Mawrth 2011,  Matthew oedd Prif Swyddog Gweithredu FCO. Yn y rôl honno, goruchwyliodd redeg yr FCO a'i rwydwaith o 270 o swyddi ledled y byd, gan gynnwys yr holl Adnoddau Dynol, Cyllid, Ystadau, Diogelwch, Technoleg Gwybodaeth, Protocol, Caffael a Gwasanaethau Corfforaethol. Dirprwyodd dros yr Is-ysgrifennydd Parhaol yn ei absenoldeb. 

Ganwyd Syr Matthew ar 16 Mehefin 1968 a chafodd ei fagu yn Southampton a Chaergrawnt. Mae ganddo radd mewn mathemateg ac athroniaeth o Goleg Merton, Rhydychen. 

Ymunodd Syr Matthew â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ym 1989. Ar ôl ychydig fisoedd yn y Cenhedloedd Unedig yn Genefa ac yna ar ddesg NATO yn Llundain, treuliodd bedair blynedd yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis. 

Ym 1995-96, Syr Matthew oedd pennaeth adran wleidyddol Adran Ddwyrain Adriatig yn yr FCO. Yn y rôl hon bu'n aelod o ddirprwyaeth Prydain i drafodaethau heddwch Dayton ar Bosnia.

Ar ôl 2 flynedd yn Staff Cynllunio Polisi FCO yn ymdrin â materion Ewropeaidd a thrawsiwerydd a secondiadau byr i Adran Wladol yr UD a Chyngres yr Unol Daleithiau, ymunodd Matthew â Llysgenhadaeth Prydain yn Washington, yn dilyn gwleidyddiaeth ddomestig yr Unol Daleithiau rhwng 1998 a 2002.  

Rhwng 2002 a 2004,  Syr Matthew oedd Ysgrifennydd Preifat i'r Prif Weinidog Materion Tramor, gan ymdrin â phob mater tramor, Ewropeaidd, Gogledd Iwerddon ac amddiffyn yn Rhif 10. Derbyniodd CBE am y gwaith hwn.

  Roedd yn Llysgennad Prydain i Bosnia a Herzegovina o 2005 a Chyfarwyddwr FCO Ewrop o 2008. 

Mae Syr Matthew yn briod ag Alison. Mae ganddynt 3 merch, a anwyd ym 1998, 2000 a 2005. Mae Syr Matthew yn  siarad Ffrangeg a Bosnieg, yn chwarae'r bas dwbl, ac yn mwynhau pêl-droed a chwaraeon eraill.          

 

Syr Philip Barton

Sir Philip Barton

Is-ysgrifennydd Parhaol yn y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu  

Syr Philip Robert Barton KCMG OBE yw'r Is-ysgrifennydd Parhaol yn y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu (FCDO).

Cyn ei benodiad i arwain yr FCDO, Philip oedd Uchel Gomisiynydd Prydain i India rhwng mis Mehefin a mis Awst 2020. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yn Swyddfa'r Cabinet yn gweithio ar ymateb tymor hwy y DU i argyfwng COVID-19. Cyn hynny bu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol, Consylaidd a Diogelwch yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad o Ebrill 2017 tan Ionawr 2020. 

Ymunodd Philip â'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad ym 1986 ac mae'n was sifil gyrfaol. Mae wedi cael ei bostio dramor yn Caracas, Delhi Newydd, Cyprus, Gibraltar  fel Dirprwy Lywodraethwr a Washington fel Dirprwy Lysgennad. Roedd yn Uchel Gomisiynydd Prydain i Bacistan rhwng 2014 a 2016.

 Roedd Philip yn Gadeirydd Dros Dro'r Cyd-bwyllgor Cudd-wybodaeth rhwng 2016 a 2017. Mae hefyd wedi gweithio yn Swyddfa'r Cabinet fel Cyfarwyddwr Cyffredinol ar Uwchgynhadledd Wrthlygredd 2016 a Chyfarwyddwr Polisi Tramor ac Affganistan/Cydlynydd Pacistan sy'n cefnogi'r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol. Bu'n Ysgrifennydd Preifat i'r Prif Weinidogion John Major a Tony Blair. 

Cyn hynny, bu Philip yn gweithio yn yr  FCO yn Llundain ar gysylltiadau economaidd rhyngwladol, yr UE a De Asia. Mae hefyd wedi cael ei secondio i'r Sefydliad Rhyngwladol dros Astudiaethau Strategol fel Uwch Gymrawd Ymgynghori sy'n canolbwyntio ar faterion De Asia. 

Yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, mae Philip wedi bod yn aelod o'r Bwrdd Rheoli a'r Pwyllgor Gwaith, Cadeirydd y Seinfwrdd, Cyfarwyddwr Anweithredol Gwasanaethau FCO a bu'n Bencampwr Bwrdd dros fynd i'r afael â Bwlio, Aflonyddu a Gwahaniaethu rhwng 2017 a 2020. 

Ganwyd Philip yn 1963. Astudiodd economeg a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Warwick ac mae ganddo radd Meistr mewn economeg o'r London School of Economics. Mae'n briod ag Amanda ac mae ganddynt ferch a mab.  

Tamara Finkelstein

Tamara Finkelstien

Ysgrifennydd Parhaol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Penodwyd Tamara Finkelstein yn Ysgrifennydd Parhaol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn 2019, ar ôl arwain gwaith yr adran ar Ddarparu Ymadael â’r UE yn flaenorol. Cyn hynny bu’n arwain y Rhaglen Diogelwch Adeiladau yn sgil tân Tŵr Grenfell yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Mae llawer o’i gyrfa wedi bod yn Nhrysorlys EM lle y dechreuodd fel economegydd, ac roedd ei rolau’n cynnwys ysgrifennydd prMae llawer o’i gyrfa wedi bod yn Nhrysorlys EM lle y dechreuodd fel economegydd, ac roedd ei rolau’n cynnwys ysgrifennydd preifat a llefarydd i’r Canghellor, ac arwain ar wariant gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys iechyd, addysg a thai

Mae hi wedi gweithio mewn nifer o adrannau eraill y llywodraeth ar bolisi a darpariaeth mewn gwasanaethau iechyd a phlant gan gynnwys fel Dirprwy Bennaeth Cychwyn Cadarn, ac fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Gofal Cymunedol yn Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, â chyfrifoldeb am ofal cymdeithasol a chymunedol. gwasanaethau.

Mae ei phrofiad bwrdd yn cynnwys rolau ar fyrddau NS&I, y Swyddfa Rheoli Dyled ac Asiantaeth Ffiniau'r DU. Roedd yn Ysgrifennydd i Gomisiwn Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus Annibynnol yr Arglwydd Hutton.

Hi yw pennaeth Proffesiwn Polisi’r Llywodraeth ac uwch noddwr Rhwydwaith Iddewig y Gwasanaeth Sifil.

 

Tom Read

Tom Read

Prif Weithredwr, Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth

Daeth Tom Read yn Brif Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) fis Chwefror 2021. Ymunodd Tom â GDS o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) lle’r oedd yn Brif Swyddog Digidol a Gwybodaeth. Tra oedd yng Ngweinyddiaeth Gyfiawnder bu’n arwain diwygiadau i foderneiddio’r dechnoleg a ddefnyddir ar draws carchardai a’r gwasanaeth cymorth cyfreithiol.

Mae Tom yn dechnolegydd digidol yn ôl ei gefndir â phrofiad ar draws ystod o ddiwydiannau gan gynnwys bancio, y cyfryngau, ac ymgynghori. Bu Tom yn Bennaeth Ceisiadau yn y Guardian Media Group o 2008 cyn ymuno â HMG fel Prif Swyddog Technoleg Swyddfa’r Cabinet yn 2013.

Vincent Devine

Vincent Devine

Prif Swyddog Diogelwch y Llywodraeth, Swyddfa'r Cabinet

Penodwyd Vincent Devine yn Brif Swyddog Diogelwch y Llywodraeth ac yn Bennaeth Swyddogaeth Ddiogelwch y Llywodraeth fis Rhagfyr 2021.

Ymunodd Vincent â’r gwasanaeth sifil yn 1993 ac mae wedi gweithio mewn ystod eang o rolau diogelwch a diogelwch cenedlaethol, gan gynnwys postio yn y Balcanau, Wcráin, a Gogledd Iwerddon. Ymunodd â Swyddfa’r Cabinet o Weinyddiaeth Amddiffyn, lle bu’n Brif Swyddog Diogelwch ers 2018.

Y Fonesig Bernadette Kelly

Bernadette Kelly

Daeth Bernadette Kelly yn Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Drafnidiaeth ar 18 Ebrill 2017. 

Rhwng mis Medi 2015 a mis Ebrill 2017,  Bernadette Kelly oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Rheilffyrdd yn yr Adran Drafnidiaeth (DfT).  Cyn hynny hi oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol yn yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS) o fis Ebrill 2010. 

Ymunodd Bernadette â'r Gwasanaeth Sifil ar ôl graddio. Mae hi wedi treulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa yn gweithio ar bolisi cyhoeddus mewn perthynas â busnes a'r economi. Mae hi wedi arwain gwaith yn y llywodraeth i ddiwygio'r drefn gynllunio ar gyfer isadeiledd mawr; hybu cyflenwad tai; sefydlu'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd; cryfhau rheoleiddio cyfleustodau; diwygio llywodraethu corfforaethol; ac ar strategaeth ddiwydiannol a thwf lleol a datganoli. 

Yn ogystal â DfT a BIS, mae Bernadette wedi gweithio yn yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, Trysorlys EF, Swyddfa'r Cabinet ac Uned Bolisi'r Prif Weinidog;  yn ogystal ag ar secondiad i ICI plc. 

Gwnaethpwyd Bernadette yn Fonesig (DCB) yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2022. Cyn hyn, cafodd Bernadette ei wneud yn Gydymaith Urdd y Baddon (CB) yn 2010.