
FAQs
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Beth yw Gwasanaeth Sifil yn Fyw?
Beth yw Gwasanaeth Sifil yn Fyw?
Gwasanaeth Sifil yn Fyw yw’r gynhadledd flynyddol ar gyfer y Gwasanaeth Sifil. Digwyddiad dysgu yw Gwasanaeth Sifil yn Fyw 2019.
Beth yw’r prif themâu?
Eleni, bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar weledigaeth y Gwasanaeth Sifil; Gwasanaeth Sifil Gwych, gyda’r cynnwys yn disgyn i’r pum thema ganlynol:
• Canlyniadau Gwell
• Arweinwyr Effeithiol
• Pobl Fedrus
• Lle Gwych i Weithio
• Prydain Fyd-eang
Pwy sy’n trefnu Gwasanaeth Sifil yn Fyw?
Mae 'Gwasanaeth Sifil yn Fyw' yn gyfres o ddigwyddiadau dysgu drwy bartneriaeth rhwng Swyddfa'r Cabinet a Dods.
Ydy'r lleoliadau’n hygyrch?
Ydyn, rydym yn sicrhau bod holl leoliadau Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn ateb y gofynion cyfreithiol. Ceir adroddiadau cynhwysiant ar gyfer pob tudalen lleoliad ar wefan Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn Ebrill 2019.
Beth yw’r gost i fynychu Gwasanaeth Sifil yn Fyw?
Mae’r digwyddiad AM DDIM i bob gwas sifil a phawb sy'n gweithio i awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus ehangach. Mae’r ffioedd a ganlyn ar gyfer mynychwyr allanol:
Prynu’n Gynnar [tan 13 Mai]
Mae Pas Digwyddiad ar gyfer un lleoliad yn £995 a TAW y pen
Mae Pas ar gyfer Pob Digwyddiad, sy’n caniatáu mynediad i bob lleoliad bob dydd, yn £1,995 a TAW y pen.
O 14 Mai
Pas Digwyddiad ar gyfer un lleoliad, £1,495 a TAW y pen.
Pas ar gyfer Pob Digwyddiad, sy’n caniatáu mynediad i bob lleoliad bob dydd, £2,995 a TAW y pen.
Rydym yn croesawu mynychwyr o’r sectorau elusennol a gwirfoddol, ac yn cynnig pris disgownt sylweddol sy'n £425 (a TAW) y pen fesul digwyddiad.
Allaf i archebu sesiynau ymlaen llaw?
Bydd archebu ar-lein ar agor yn hwyrach ym mis Ebrill 2019. Drwy archebu sesiwn, bydd hynny’n rhoi lle i chi yn y sesiwn ond rhennir y seddi ar sail y cyntaf i'r felin ar y dydd. Byddem yn eich cynghori i ddod 15 munud cyn i'r sesiwn ddechrau.
Pryd byddaf yn cael fy mathodyn?
Byddwch yn cael eich bathodyn drwy’r e-bost rhyw bythefnos cyn y digwyddiad rydych wedi cofrestru i’w fynychu.
Beth sy’n digwydd os na fyddaf wedi cael fy mathodyn cyn y digwyddiad?
Peidiwch â phoeni! Byddwch yn cael neges e-bost pan fyddwch yn cofrestru, ac yna wythnos cyn y digwyddiad, a fydd yn cynnwys eich rhif cyfeirnod unigryw. Argraffwch yr e-bost a dewch ag ef gyda chi i’r digwyddiad ble byddwn yn argraffu bathodyn arall i chi. Os ydych yn anghofio argraffu'r e-bost, rhowch eich enw wrth y ddesg gofrestru ac fe chwiliwn am eich manylion er mwyn argraffu bathodyn arall.
A allaf fynychu 'Gwasanaeth Sifil yn Fyw' mewn mwy nag un ddinas?
Y bwriad yw bod gweision sifil yn mynychu un diwrnod o ddigwyddiadau 'Gwasanaeth Sifil yn Fyw' ond gan fod y digwyddiad am ddim i bawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Sifil, mae croeso i chi fynychu'r holl ddigwyddiadau os ydych yn talu eich costau teithio eich hun.
A fydd cyflwyniadau 'Gwasanaeth Sifil yn Fyw' ar gael ar-lein ar ôl y digwyddiad?
Byddwn yn gweithio gyda’n siaradwyr i uwchlwytho cymaint ag y bo modd o’r cyflwyniadau. Os hoffech gael mynediad at gyfres o sleidiau, e-bostiwch y tîm yn: CSL-Queries@dodsgroup.com. Noder, ni fydd ambell gyflwyniad ar gael os ydynt yn cynnwys gwybodaeth sensitif neu os nad yw’n gwneud synnwyr heb yr araith a roddwyd.
A yw mynychu 'Gwasanaeth Sifil yn Fyw' yn cyfri tuag at un o fy mhum diwrnod dysgu bob blwyddyn?
Ydy, mae 'Gwasanaeth Sifil yn Fyw' yn cyfri tuag at eich pum diwrnod o ddysgu bob blwyddyn.
A fydd fy nata’n cael ei rannu? Os bydd, yna gyda phwy?
Bydd eich data’n cael ei rannu gyda Swyddfa’r Cabinet, Dods ac unrhyw drydydd parti eraill os ydych wedi cytuno i hynny yn ystod y broses gofrestru.
Os wyf yn dod o'r tu allan i’r Gwasanaeth Sifil, sut gallaf arddangos neu drefnu i siarad yn Gwasanaeth Sifil yn Fyw?
Cysylltwch â customerservices@dodsgroup.com a bydd ymgynghorydd yn cysylltu â chi.
A fydd lluniaeth yn cael ei ddarparu?
Bydd mannau bwyd a diod yn y lleoliad, a gallwch brynu lluniaeth yno. Noder gellir talu ag arian parod yn unig. Bydd dwr ar gael am ddim. Mae pob lleoliad yng nghanol y dinasoedd, ac mae caffis a siopau ar gael yn agos os byddwch am fynd allan i gael cinio tu allan i'r lleoliad.
A fydd Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn talu costau teithio a chynhaliaeth i’r gweision sifil a fydd yn mynychu?
Dewiswyd y lleoliadau gan fod modd eu cyrraedd yn hawdd a chost-effeithiol gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Dylid hawlio’r holl gostau o’ch cyllideb leol, a bydd angen cymeradwyaeth eich rheolwr llinell.
Beth yw cod gwisg y digwyddiadau?
Eich gwisg gwaith arferol.
A fydd rhywun yn tynnu lluniau yn y digwyddiadau?
Bydd ffotograffydd swyddogol ymhob un o ddigwyddiadau 'Gwasanaeth Sifil yn Fyw'. Os nad ydych eisiau i’ch llun gael ei ddefnyddio, rhowch wybod i'r ffotograffydd.
Beth os oes angen i mi ganslo'n lle yn y digwyddiad ar ôl i mi gofrestru?
Mewngofnodwch i'r wefan gofrestru eto (drwy wefan Gwasanaeth Sifil yn Fyw), a chanslwch eich archebiad a’r sesiynau rydych wedi’u harchebu fel bod modd i’ch lle fod ar gael i rywun arall sydd am ddod.
Rwyf wedi clywed eich bod yn cynnal sesiynau mentora untro yn y digwyddiadau. Sut wyf yn trefnu hyn?
Gallwch gofrestru i gael sesiwn mentora un-i-un, sy'n para ugain munud yn gynnar yn 2019. Bydd y rhain ar gael i'w harchebu o wefan Gwasanaeth Sifil yn Fyw.
Rwyf eisiau gwirfoddoli i helpu yn y digwyddiadau – sut wyf yn gwneud hyn?
Ewch i tab ‘Cymryd Rhan’ a chofrestru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi yn y digwyddiad – ac mae eich amser yn cyfri tuag at eich diwrnodau cyfraniad corfforaethol.
Rwyf eisiau cynnig mentora yn y digwyddiadau – sut wyf yn gwneud hyn?
Ewch i tab ‘Cymryd Rhan’ a chofrestru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi yn y digwyddiad – ac mae eich amser yn cyfri tuag at eich diwrnodau cyfraniad corfforaethol