Cymryd Rhan
Mentora | Arddangos | Gwirfoddoli
Arddangos
Mae cael stondin arddangos yn Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn un o'r nifer o ffyrdd o rannu a chyfnewid syniadau, cwrdd ag ystod eang o weision sifil a chodi ymwybyddiaeth o'r gwaith rydych chi'n ei wneud. Mae croeso i chi arddangos yng Nghaeredin neu Llundain.
Mae ceisiadau i arddangos bellach wedi cau. Os hoffech arddangos yn y naill leoliad neu'r llall, cysylltwch â ni yn customer.service@dodsgroup.com a byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw leoedd am stondin ar ôl.
Mae cost pecyn arddangos safonol i adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth ei arddangos yn Gwasanaeth Sifil yn Fyw yw:
- Caeredin: £2,250 + TAW
- Llundain: £3,900 + TAW
Mentora
Mae mentora wedi bod yn gyfle dysgu poblogaidd dros y pum mlynedd diwethaf. Mae'r sesiynau mentora byr hyn yn darparu rhagflas, neu gyflwyniad i fentora, fel y gall cynrychiolwyr ddeall drostynt eu hunain y manteision o gael mentor a chael eu hysbrydoli i ddod o hyd i'w mentor eu hunain yn dilyn y digwyddiadau.
Os hoffech dreulio ond 90 munud yn cynnig sesiynau mentora yn unrhyw un o’r digwyddiadau, rhoi cyngor ac arweiniad i weision sifil, llenwch y ffurflen ar-lein. Fe'ch anogir i roi cyfrinair i gael mynediad i'r wefan. Y cyfrinair yw “Mentor”.
Gwirfoddoli
Rydym angen gwirfoddolwyr brwdfrydig ac egnïol ym mhob un o ddigwyddiadau'r Gwasanaeth Sifil yn Fyw. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gysylltu â’ch cydweithwyr, i ddysgu o seminarau ac i ymwneud mwy â Gwasanaeth Sifil yn Fyw ei hun.
Os hoffech wirfoddoli ar gyfer unrhyw un o'r digwyddiadau, cofrestrwch yma. Fe'ch anogir i roi cyfrinair i gael mynediad i'r wefan. Y cyfrinair yw "Volunteer".
Gallwch ddarganfod mwy am wirfoddoli yn y digwyddiadau trwy edrych ar y ddogfen hon.