Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Gwasanaeth Sifil yn Fyw?

Gwasanaeth Sifil yn Fyw yw digwyddiad dysgu mwyaf yn Ewrop. Mae’n gynhadledd flynyddol a digwyddiad dysgu ar gyfer pawb sydd yn y Gwasanaeth Sifil a’r Gwasanaeth Cyhoeddus ehangach.

Ble a phryd mae Gwasanaeth Sifil yn Fyw?

Mae Gwasanaeth Sifil yn Fyw eleni yn cymryd lle dros fis Mehefin a Gorffennaf 2023 yn y lleoliadau canlynol:

  • Dydd Mercher 7 Mehefin 2023 - Prifysgol Northumbria, Newcastle 
  • Dydd Iau 15 Mehefin 2023 - SEC Centre, Glasgow 
  • Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023 - Manchester Central, Manceinion 
  • Dydd Iau 13 Gorffennaf 2023 - Neuadd y Ddinas, Caerdydd 
  • Dydd Mawrth 18 & Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2023 - ICC ExCeL, Llundain

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi yr ydym hefyd yn cynnal digwyddiadau rhanbarthol llai yn Belfast ac Exeter. Nod y sesiynau hyn yw darparu rhagflas llai, lleol o’r profiad llawn o’r Gwasanaeth Sifil yn Fyw ar gyfer rhwng 420 a 500 o staff. 

  • Dydd Iau 22 Mehefin 2023 - Titanic Belfast, Belfast  
  • Dydd Mawrth 27 Mehefin 2023 - Sandy Park, Exeter 

Beth yw’r themâu allweddol am 2023?

Mae cynnwys Gwasanaeth Sifil yn Fyw 2023 wedi’i gynllunio o gwmpas ein gweledigaeth ar y cyd o Wasanaeth Sifil Modern, gyda ffocws ar fod yn fwy: 

  • Medrus  
  • Arloesol 
  • Uchelgeisiol 

Pwy sy’n trefnu Gwasanaeth Sifil yn Fyw?

Mae Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn cael ei gyflenwi drwy bartneriaeth rhwng Swyddfa'r Cabinet a Dods Events. 

Pryd allaf gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Sifil yn Fyw?

Bydd cofrestru yn agor ar 26ain Ebrill am 10am

Beth yw’r gost i fynychu Gwasanaeth Sifil yn Fyw?

Mae’r digwyddiad AM DDIM i fynychu i bob gwas sifil a’r rheiny sy’n gweithio i awdurdodau lleol a’r gwasanaeth cyhoeddus ehangach. Mae’r ffioedd canlynol yn berthnasol i gynadleddwyr allanol:

  • Mae Tocyn Digwyddiad sy’n berthnasol i un lleoliad, yn £995 + TAW fesul cynadleddwr. 
  • Mae Tocyn Digwyddiad Diderfyn, sy’n caniatáu mynediad i chi i’r holl leoliadau ar yr holl ddyddiadau, yn £1,995 + TAW fesul cynadleddwr. 

Rydym yn croesawu mynychwyr o’r sectorau elusennol a gwirfoddol, ac yn cynnig pris disgownt sylweddol sy'n £425 a TAW y pen fesul digwyddiad.

Ydy'r lleoliadau’n hygyrch?

Ydynt, rydym yn gwneud yn siŵr bod pob lleoliad lle rydym yn cynnal Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn cwrdd ag anghenion cyfreithiol.

Pryd byddaf yn derbyn fy nhocyn ar gyfer y digwyddiad? 

Byddwch yn derbyn copi o’ch tocyn mynediad trwy e-bost tua phythefnos cyn y digwyddiad rydych wedi cofrestru i fynychu.  Bydd hyn yn cael ei anfon atoch mewn ffurf e-tocyn a hefyd pdf y gellir ei argraffu.   

Gwnewch yn siwr eich bod yn dod â chopi o’ch tocyn mynediad naill ai wedi’i argraffu neu mewn ffurf e-tocyn gan fod hyn yn ofynnol i gael mynediad. Gyda’r ddau opsiwn, bydd lanyard yn cael ei rhoi i chi yn y lleoliad

E-tocyn  

Os hoffech ddefnyddio eich e-tocyn i gael mynediad i’r digwyddiad, gallwch lawrlwytho hyn i’ch waled Google neu Apple am fynediad cyflym

Noder, ni fydd e-tocynnau yn dangos eich amserlen bersonol na’r sesiynau rydych wedi’u harchebu o fewn eich waled Google neu Apple, felly rydym yn argymell eich bod yn cadw eich e-bost cadarnhau cofrestru wrth law fel y gallwch gyfeirio at hyn trwy gydol y diwrnod. I’ch atgoffa, bydd eich amserlen bersonol hefyd yn cael ei e-bostio atoch y diwrnod cyn y digwyddiad rydych yn ei fynychu.

Tocyn wedi’i argraffu 

Os hoffech ddefnyddio eich tocyn pdf i gael mynediad i’r digwyddiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn argraffu hwn ymlaen llaw cyn dod i’r lleoliad.  Bydd PDFs yn dangos eich amserlen bersonol ar gefn eich tocyn.
 

Beth sy’n digwydd os nad wyf yn derbyn fy mathodyn cyn y sioe?

Peidiwch â phoeni!  Byddwch yn derbyn e-bost pan fyddwch yn cofrestru ac eto wythnos cyn y digwyddiad a fydd yn cadarnhau eich cofrestriad. Argraffwch yr e-bost hwn a dewch ag ef gyda chi i’r sioe ble byddwn yn argraffu bathodyn arall i chi. Os ydych yn anghofio i argraffu’r e-bost, rhowch eich enw wrth y ddesg gofrestru a byddwn yn edrych â llaw am eich manylion er mwyn argraffu bathodyn arall. Noder gall y broses hon olygu rhywfaint o amser yn aros mewn ciw i gael mynediad.

A allaf fynychu 'Gwasanaeth Sifil yn Fyw' mewn mwy nag un ddinas?

Y bwriad yw bod gweision sifil ond yn mynychu un diwrnod o Wasanaeth Sifil yn Fyw, fodd bynnag, gan fod y digwyddiad am ddim i fynychu i bawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Sifil, mae croeso i chi fynychu'r holl ddigwyddiadau ar eich costau teithio eich hun.

Allaf i archebu sesiynau ymlaen llaw?

Gallwch, byddwch yn gallu archebu sesiwn unwaith y bydd cofrestru wedi agor. Os gwelwch na allwch fynychu'r sesiynau, mewngofnodwch yn ôl a chanslo'r rhain i sicrhau bod eich lle ar gael i rywun ar y rhestr aros. Byddem yn argymell eich bod yn cyrraedd 15 munud cyn i'r sesiwn ddechrau 

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn derbyn fy nghadarnhad e-bost ar gyfer fy sesiynau?

Edrychwch eto yn eich mewnflychau sbam a sothach, os ydych dal heb dderbyn e-bost, rhowch wybod i ni drwy e-bostio csl-queries@dods-events.com a bydd aelod o'r tîm yn eich helpu. 

Ni allaf fynychu ar unrhyw un o'r dyddiadau hyn. A fyddaf yn gallu cael mynediad i unrhyw gynnwys o'r digwyddiadau?

Byddwn yn recordio sesiynau o'r digwyddiadau byw yng Nghaeredin a Llundain ac yn sicrhau bod y recordiadau o bron pob un o'n sesiynau ar gael i chi eu gwylio ar alw yn y 6 mis ar ôl y digwyddiadau.  

A yw fy mhresenoldeb yn y Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn cyfrif tuag at un o fy pum diwrnod dysgu y flwyddyn?

Ydy, mae Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn cyfrif tuag at eich pum diwrnod dysgu'r flwyddyn.

A fydd fy nata’n cael ei rannu, os bydd, gyda phwy?

Bydd eich data yn cael ei brosesu a'i storio yn unol â'n polisi preifatrwydd.

Os wyf yn dod o'r tu allan i’r Gwasanaeth Sifil, sut gallaf  arddangos neu drefnu i siarad yn Gwasanaeth Sifil yn Fyw?

Cysylltwch â customerservices@dodsgroup.com a bydd ymgynghorydd yn cysylltu â chi.

Beth os bydd angen i mi ganslo'm lle yn y digwyddiad ar ôl i mi gofrestru?

Mewngofnodwch i'r wefan gofrestru eto (drwy eich e-bost cadarnhau cofrestriad), a chanslwch eich archebiad a’r sesiynau rydych wedi’u harchebu fel bod modd i’ch lle fod ar gael i rywun arall sydd am ddod.

A ddarperir arlwyo?

Bydd mannau arlwyo ym mhob lleoliad lle gallwch brynu lluniaeth. Bydd dŵr yn cael ei gyflenwi am ddim. Mae pob lleoliad wedi'i leoli yng nghanol dinasoedd lle gellir dod o hyd i gaffis a siopau yn hawdd, os bydd angen i chi ddod o hyd i ginio y tu allan i'r lleoliad ei hun.  

A fydd Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn talu costau teithio a chynhaliaeth i’r gweision sifil a fydd yn mynychu?

Dewiswyd y lleoliadau gan fod modd eu cyrraedd yn hawdd a chost-effeithiol gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Dylid hawlio’r holl gostau o’ch cyllideb leol, a bydd angen cymeradwyaeth rheolwr llinell.

Beth yw cod gwisg y digwyddiadau?

Gwisg swyddfa

A fydd rhywun yn tynnu lluniau a ffilmio yn y digwyddiadau?

Bydd ffotograffydd swyddogol ym mhob digwyddiad Gwasanaeth Sifil yn Fyw. Os nad ydych am i'ch llun gael ei ddefnyddio mewn unrhyw ddeunyddiau, rhowch wybod i'r ffotograffydd. Byddwn hefyd yn ffilmio rhai o'n sesiynau yn ein digwyddiadau yn Glasgow, Caerdydd a Llundain. Os nad ydych am ymddangos yn unrhyw un o'r lluniau hyn, rhowch wybod i Reolwr yr Ystafell neu wirfoddolwr ar y diwrnod

Rwyf wedi clywed eich bod yn cynnal sesiynau mentora yn y digwyddiadau - sut wyf yn trefnu hyn?

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y digwyddiadau, nodwch eich bod am gymryd rhan yn ein rhaglen fentora. Yn y digwyddiadau wyneb yn wyneb, bydd angen i chi fynd i'r ardal fentora i adolygu rhestr o fentoriaid a'u meysydd arbenigedd ac argaeledd a threfnu sesiwn.

Rwyf am gynnig mentora yn y digwyddiadau – sut mae gwneud hyn?

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y digwyddiadau, nodwch yr hoffech gynnig eich amser ar gyfer mentora a byddwn mewn cysylltiad i gytuno ar amser gyda chi. Byddwn yn edrych ymlaen at weithio gyda chi yn y digwyddiad - ac mae eich amser yn cyfrif tuag at eich dyraniad o ddiwrnodau cyfraniad corfforaethol.

A fyddaf yn gallu gofyn cwestiynau a rhannu fy marn ar sesiynau?

Byddwch, bydd gan y rhan fwyaf o sesiynau declyn ymgysylltu â chynulleidfa a fydd yn caniatau i chi roi cwestiynau, pleidleisio am gwestiynau pobl eraill rydych am glywed atebion iddynt, ateb polau a sgwrsio am y pwnc. Bydd cyfraniadau bob amser yn ymddangos o dan eich enw.
Os nad oes gennych fynediad at ffôn clyfar, bydd gennym feicroffon crwydrol yn yr ystafell sesiwn i ganiatau cwestiynau gan aelodau'r gynulleidfa.

Rwyf eisiau gwirfoddoli i helpu yn y digwyddiadau – sut wyf yn gwneud hyn?

Ewch i’r tab ‘Cymryd Rhan’ a chofrestru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi yn y digwyddiad – ac mae eich amser yn cyfri tuag at eich diwrnodau cyfraniad corfforaethol.

Sut dylwn i gynllunio fy mhresenoldeb i Gwasanaeth Sifil yn Fyw 2023?

Mae Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn ddigwyddiad dysgu a datblygu a dylid ei drin felly yn eich uned fusnes. Byddem yn cynghori pawb i bob amser geisio eglurder a chymeradwyaeth gan eu rheolwr llinell cyn mynychu Gwasanaeth Sifil yn Fyw.

Ni allaf fforddio cael gormod o staff yn mynychu Gwasanaeth Sifil yn Fyw 2023, sut mae sicrhau bod pawb yn fy nhîm yn gallu elwa o’r digwyddiadau?

Gwyddom y bydd angen buddsoddiad amser i fynychu Gwasanaeth Sifil yn Fyw 2023 a byddem yn annog yn gryf i'r holl staff ddefnyddio adeiladu rhaglen eu hunan i sicrhau bod eu diwrnod wedi’i gynllunio’n drylwyr a’u bod yn cael y gorau o’r digwyddiadau a gynigir. Mae pob sesiwn wedi'i saernïo i ddarparu negeseuon allweddol a chamau gweithredu y gall mynychwyr fynd â nhw yn ôl i'w cydweithwyr. Bydd y deunyddiau ar gyfer pob sesiwn hefyd ar gael ar-lein i bob gwas sifil, a bydd cyfle i wylio sesiynau wedi’u recordio ar ôl i Gwasanaeth Sifil yn Fyw ddod i ben. 

Sut mae Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn  cefnogi cynaliadwyedd a mandad Llywodraeth y DU i fod yn garbon niwtral erbyn 2050?

Bob blwyddyn rydym yn adolygu lleoliadau'r Gwasanaeth Sifil yn Fyw er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd a hyfforddi cymaint o weision sifil â phosibl. Mae hyn hefyd er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y rhain mewn lleoliadau cyfleus a chanolog i leihau teithio corfforaethol cymaint â phosibl. Mae pob un o'r lleoliadau sy'n cael eu dewis yn hawdd i'w gyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn ymgais i leihau nifer y cynadleddwyr sy'n mynd â cheir neu gludiant personol i'r digwyddiadau. 

Mae gan y lleoliadau a ddewiswyd polisïau cynaliadwyedd ar waith gan gynnwys unedau ailgylchu ar y safle, dewisiadau amgen i blastig untro, cyrchu cynhyrchion lleol ar gyfer bwyd a sicrhau bod dewis bwyd llysiau ar y fwydlen fel safon. 

Rydym yn gwybod y  bydd mynychu Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn gofyn am fuddsoddiad amser a byddem yn annog yr holl staff yn gryf i wneud defnydd o’r teclyn adeiladu rhaglen eich hun i sicrhau bod eu diwrnod wedi'i gynllunio'n drylwyr ac maent yn cael y gorau o'r digwyddiadau sydd ar gael. Mae pob sesiwn wedi'i chynllunio i ddarparu negeseuon a gweithredoedd allweddol y gall y mynychwyr eu cymryd yn ôl at eu cydweithwyr.  

Mae ein partner cyflenwi Dods Events, yn  gweithio tuag at achrediad ISO9001 ac yn cadw at ofynion ISO20121 ac o'r herwydd, yn canolbwyntio ar ddulliau cynaliadwy ac ecogyfeillgar o ran rheoli digwyddiadau a gweithredu. Mae Dods Events yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd drwy reoli cyflenwyr yn ofalus, cynllunio deunyddiau a chydlynu trafnidiaeth gan gynnwys logisteg a gwasanaethau cludo nwyddau i wneud y digwyddiad mor gynaliadwy â phosibl.