Am
Beth yw Gwasanaeth Sifil yn Fyw?
Gwasanaeth Sifil yn Fyw yw digwyddiad dysgu trawsadrannol blynyddol y llywodraeth, sy’n denu miloedd o weision sifil i ddysgu, rhwydweithio a rhannu arfer gorau - gyda'r nod o ddarparu gwell gwasanaeth cyhoeddus.
Mae’r digwyddiadau’n cynnig sesiynau difyr, rhyngweithiol sy’n ysgogi’r meddwl, dan arweiniad siaradwyr arbenigol ac ysbrydoledig. Bydd uwch arweinwyr o’r Gwasanaeth Sifil, y Senedd, y sectorau Cyhoeddus a Phreifat yn siarad am eu profiadau, yn rhannu gwybodaeth, ac yn cymryd cwestiynau.

Prif areithiau gan Ysgrifenydd y Cabinet, Prif Swyddog Gweithredu’r Gwasanaeth Sifil, Ysgrifenyddion Parhaol ac uwch arweinwyr

Sesiynau mentora un i un gydag Uwch Weision Sifil

Cyfleoedd i ofyn Cwestiynau Cyffredin i Uwch Weision Sifil

Sesiynau ysbrydoledig ar dair thema moderneiddio a diwygio’r Gwasanaeth Sifil: Gwasanaeth Sifil Medrus, Gwasanaeth Sifil Arloesol, Gwasanaeth Sifil Uchelgeisiol

Sesiynau gan y proffesiynau mwyaf ar draws y llywodraeth

Gweithdai a seminarau wedi'u hanelu at bob gradd a phroffesiwn
Gwasanaeth Sifil Modern
Themau Cynnwys
Mae cynnwys digwyddiad eleni wedi'i gynllunio o amgylch tair thema:
Gwasanaeth Sifil Medrus
- Buddsoddi mewn sgiliau, hyrwyddo arbenigedd, a chryfhau arweinyddiaeth
- Adlewyrchu’r wlad rydym yn gwasanaethu a chreu cyfleoedd o amgylch y DU
Gwasanaeth Sifil Arloesol
- Dod o hyd i ffyrdd newydd o ddatrys problemau i gyflawni ar gyfer y cyhoedd
- Manteisio'n llawn ar ddata a thechnoleg
Gwasanaeth Sifil Mentrus
- Cyflawni rhagoriaeth mewn cyflenwi prosiectau a gwasanaethau cyhoeddus
- Ei gwneud yn hawdd i gydweithio a darparu profiad di-dor i'r cyhoedd